Skip to main content

Aberdare Festival

Gŵyl Aberdâr

Mae Gŵyl Aberdâr yn dychwelyd ddydd Sadwrn 25 Mai!

yn dychwelyd ddydd Sadwrn 25 Mai!

Mae Gŵyl Aberdâr yn dychwelyd ddydd Sadwrn 25 Mai! 
Dewch i Ŵyl Aberdâr dros Ŵyl Banc y Gwanwyn ac ymuno â ni am lawer o adloniant ym Mharc godidog Aberdâr!
Bydd yno rywbeth i'r teulu cyfan, gan gynnwys llawer o adloniant am ddim!
Bydd yr achlysur poblogaidd yma'n cael ei gynnal rhwng 11am a 5pm. Bydd mynediad AM DDIM a bydd yr adloniant eleni yn cynnwys:
Sinema awyr agored am ddim – dewch â blanced picnic a mwynhau'r ffilm newydd, Wonka! 
Llwyfan Cerddoriaeth Fyw 
Fferm Anwesu Anifeiliaid am ddim – Mae'r atyniad bob amser yn boblogaidd iawn gyda phlant bach!
Stondinau bwyd, crefft a gwybodaeth 
Trên Bach – Ewch i'r babell Beth sy' 'mlaen i brynu band llawes am £1 er mwyn teithio ar y trên drwy'r dydd o amgylch y parc!
Mynd ar Gefn Asyn – Gweithgaredd poblogaidd arall ar gyfer plant bach. Bydd reidiau'n costio £1 a bydd modd prynu tocynnau o'r babell Beth sy' 'mlaen.
Bar a gardd gwrw – Bragdy Grey Trees, o'r ardal leol, fydd yn rhedeg y bar a bydd modd mwynhau diodydd yn yr ardd gwrw.
Ffair hwyl – Bydd reidiau a stondinau ar gyfer plant bach yn ogystal â reidiau mwy ar gyfer y rheiny sy'n mwynhau'r cyffro.
Yn ogystal â’r holl adloniant gwych yma, am y tro cyntaf erioed, bydd Gŵyl Aberdâr hefyd yn cynnal Picnic y Tedis. Bydd yr achlysur poblogaidd ar gyfer plant dan 5 oed yn cael ei gynnal ger ardal y safle seindorf. Bydd yn cynnwys gwybodaeth am wasanaethau sydd ar gael i rieni a gwarcheidwaid plant cyn oed ysgol.

Aberdare Festival Prizes 1

Visit-RCT-Lido-Banner-Welsh

Noddwyr digwyddiadau

RCT-Footer-Logo

NATHANIEL MG LOGO 2019